Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 30 Medi 2019
Amser:
13.00 -
16.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5624
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Gareth Bennett AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Suzy Davies AC Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Ann-Marie Harkin Gareth Lucey |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Adam Price AC.
2. Nodwyd y papurau.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid y Cynulliad, a Suzy Davies AC, y Comisiynydd sydd â Chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu, am Gyfrifon Comisiwn y Cynulliad.
3.2 Cytunodd y tystion i anfon rhagor o wybodaeth am y canlynol:
· Y targedau ymestyn ar gyfer y dangosyddion perfformiad allweddol;
· Cynlluniau / gwaith sy’n cael ei wneud i leihau plastig untro;
· Agweddau amgylcheddol asesiadau contract; a
· Chymharu absenoldeb sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a llesiant ac achosion eraill o salwch ar gyfer eleni a’r llynedd.
4. Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i edrych arno eto yn y cyfarfod nesaf.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7. Cafodd aelodau’r Pwyllgor sesiwn hyfforddi ar rôl Swyddogion Cyfrifo.